Cynhaliwyd y Ffair ar y 10fed Medi 2011. Er gwaethaf y tywydd garw, cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn o dan lywyddiaeth Mr Elfyn Williams, Idole (Wyngarth gynt). Cafwyd cystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth ac arddangosfa arbennig o dda o hen beiriannau. Codwyd swm sylweddol tuag at Apêl Elain.
Dyma enillwyr y Gwobrau: Adran Fferm - Iestyn Russell, Adran CFfI – Elen Powell, Llysiau a Ffrwythau – Jenkin Mason, Blodau - Gwyn Williams, Coginio – Helen Roberts, Cyffeithiau / Gwinoedd - Joyce Williams, Ysgol Feithrin – Thomas Gregg, Dosbarth Derbyn – Thomas Legg, Blwyddyn 1 a 2 – Osian Roberts, Blwyddyn 3 a 4 – Gwennan Rowcliffe, Blwyddyn 5 a 6 - Mari Lewis, Ysgol Uwchradd – Manon Williams, Arlunwaith – Dilys Godfrey, Ffotos – Terry Davies, Crefftau Cefn Gwlad – Gwyn Williams, Gwaith Llaw – Dilys Godfrey, Adran y Defaid – Eiddig Jones, Cwpan Sialens Felindre Uchaf – Jenkin Mason, Cwpan Sialens Felindre Isaf – Teulu Ffosyffin, Cwpan Sialens Wyn a Mary - Carwyn Lewis, Cwpan Sialens Eric Harries – Eiddig Jones, Cwpan Sialens Teulu Hendai – Carwyn Lewis, Cwpan Sialens Dalgety - Carwyn Lewis.
Hoffai’r swyddogion ddiolch i bawb a fu’n helpu ac am bob cefnogaeth.
Cynhelir y Ffair Ram nesaf ar Ddydd Sadwrn y 8fed o Fedi 2012.
Lawrlwythwch Ffurflen Gofrestru Hen Beiriannau yma.